Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (181) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Cynnig i Ethol Aelodau i Bwyllgorau
Dechreuodd yr eitem am 14.28
NDM5440 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:
(i) Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle William Graham (Ceidwadwyr Cymreig);
(ii) Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle William Graham (Ceidwadwyr Cymreig); a
(iii) William Graham (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o, ac yn Gadeirydd i, y Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: PISA 2012 - Y wybodaeth ddiweddaraf
Dechreuodd yr eitem am 14.28
4 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad o Ddarparu Cymorth gyda'r Dreth Gyngor
Dechreuodd yr eitem am 15.03
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Dileu TB mewn Gwartheg
Dechreuodd yr eitem am 15.28
6 Dadl: Setliad yr Heddlu 2014-15
Dechreuodd yr eitem am 16.11
NDM5435 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2014-2015 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl: Dyfodol ein gorffennol - cyfeiriadau newydd ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 16.34
NDM5434 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru hyd yma o safbwynt ei Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol ynghyd â'r camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad ar "dyfodol ein gorffennol".
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen ag uno Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a CADW.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi tystiolaeth yn rheolaidd o effaith polisïau treftadaeth ar leihau tlodi yng Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r newyddion diweddaraf am y gwaith a wnaed i greu Cynghrair Treftadaeth i Gymru neu ymddiriedolaeth cadwraeth treftadaeth genedlaethol.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad statudol bod awdurdodau lleol yn llunio rhestr leol o adeiladau sy’n cael eu hystyried yn asedau hanesyddol yn eu hardaloedd drwy unrhyw Fil Treftadaeth yn y dyfodol, ac i ddarparu canllawiau a pholisïau enghreifftiol ar gyfer eu cynlluniau datblygu lleol i ategu hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu categori ar gyfer adeiladau rhestredig sy’n dangos agweddau pwysig ar hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol neu filwrol lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5434 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru hyd yma o safbwynt ei Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol ynghyd â'r camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad ar "dyfodol ein gorffennol".
Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen ag uno Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a CADW.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi tystiolaeth yn rheolaidd o effaith polisïau treftadaeth ar leihau tlodi yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r newyddion diweddaraf am y gwaith a wnaed i greu Cynghrair Treftadaeth i Gymru neu ymddiriedolaeth cadwraeth treftadaeth genedlaethol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
8 Dadl: Cynnig i gytuno ar Femorandwm Llywodraeth Cymru ar y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol
Dechreuodd yr eitem am 17.19
NDM5436 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Memorandwm Llywodraeth Cymru ar y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Ionawr 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.39
Daeth y cyfarfod i ben am 17:40
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 19 Chwefror 2014